ECT Booklet Cymraeg - Flipbook - Page 10
Y ffordd ymlaen
Bydd ein hagenda flaengar ar gyfer y pum mlynedd nesaf
yn canolbwyntio ar dri maes allweddol, sef y gallu i dyfu,
gwerthadwyedd a chynaliadwyedd.
Y gallu i dyfu
Rydyn ni’n canolbwyntio ar dyfu ein helusen mewn ffordd
hydrin a chydgysylltiedig.
Felly, byddwn yn:
• Sicrhau bod ehangu mewn un ardal ddaearyddol yn
creu’r potensial i’r elusen ehangu mewn ardal arall
• Cyd-greu gwasanaethau newydd y gellir eu cyflwyno
ar raddfa fwy
• Defnyddio technoleg ddigidol i gysylltu â buddiolwyr,
rhanddeiliaid a chefnogwyr posibl a datblygu ffyrdd
newydd o ymgysylltu â’n preswylwyr a’n dysgwyr
Gwerthadwyedd
Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu achosion dros
gymorth sy’n sail i’n holl strategaethau ac ymgyrchoedd codi
arian. Bydd yr achosion dros gymorth hefyd yn fodd i leisiau’r bobl
rydyn ni’n gweithio gyda nhw gael eu clywed mewn perthynas â
cheisiadau am gyllid, ymgyrchoedd a phenderfyniadau cyllido a
all effeithio arnynt.
8