ECT Booklet Cymraeg - Flipbook - Page 3
Elidyr Communities Trust
Rydyn ni’n ddarparwr gwasanaethau preswyl arbenigol yn y sector elusennol i bobl ag amrywiaeth eang o anableddau dysgu.
Rydyn ni wedi ein lleoli yn Sir Gaerfyrddin yng nghanol De-orllewin Cymru, gyda’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau’n cael eu
darparu yn ardal wledig hardd Rhandir-mwyn. Rydyn ni hefyd yn darparu gofal i breswylwyr Tŷ Victoria, sef cartref gofal
cofrestredig ym mhentref Llangadog. Mae Towy Valley Care, sef ein his-gwmni dan berchnogaeth lwyr, hefyd wedi’i leoli
yn Llangadog, ac mae’n darparu gofal cartref i bobl sy’n byw’n annibynnol yn y pentref a’r ardal gyfagos.
Gydag adroddiadau arolygu olynol ar ofal ac addysg yn cynnwys sylwadau ar ansawdd ein darpariaeth, ein harweinyddiaeth
gref ac ymroddiad ein staff a’n gwirfoddolwyr, caiff yr elusen ei hystyried, yn briodol ddigon, yn lle gwych i fyw a dysgu ynddo.
Mae ein cymuned yn seiliedig ar yr egwyddor bod gan bob preswylydd a dysgwr hawl i gael gofal ac addysg o’r ansawdd
gorau. Mae’r egwyddor hon wrth wraidd ein cenhadaeth i ddarparu gofal ac addysg o’r safon uchaf posibl i’n preswylwyr
a’n dysgwyr – bob amser ac ym mhobman.
Wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu ein Hanner Canmlwyddiant ym mis Mehefin 2025, rydyn ni’n gobeithio adeiladu ar y
pethau rhyfeddol rydyn ni wedi’u cyflawni fel elusen dros y 50 mlynedd diwethaf.
Rydyn ni’n dal yn gadarn yn ein haddewid i beidio byth â chyfaddawdu ar ansawdd, ac yn benderfynol yn ein huchelgais i
gyrraedd mwy o bobl mewn mwy o leoedd. Drwy wneud hynny, bydd mwy o unigolion, teuluoedd a chymunedau yn cael
budd o waith gwych ein helusen. Felly, ein bwriad yw datblygu enw da’r elusen ymhellach, sicrhau llwyfan cyllido hyblyg
a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a datblygu gwasanaethau newydd a gaiff eu darparu i’r un safon uchel ag a gaiff ein
preswylwyr a’n dysgwyr heddiw.
1