ECT Booklet Cymraeg - Flipbook - Page 5
Amcanion strategol
1
2
3
4
5
Ein hamcan cyntaf yw parhau i wneud yr hyn a wnawn yn dda. Os gwnawn hynny dros y pum mlynedd
nesaf, byddwn yn parhau i fod yn lle gwych i fyw a dysgu.
Ein hail amcan – sy’n canolbwyntio ar wneud Elidyr Communities Trust yn lle gwych i weithio yw creu
cyfleoedd gwirioneddol i gymryd rhan a gwneud cynnydd, a datblygu rhwydwaith o gymorth ar gyfer yr
holl waith gwych rydyn ni’n ei wneud fel elusen.
Ein trydydd amcan yw cynyddu nifer y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw bob blwyddyn: gan sicrhau
bod mwy o leoedd ar gael i fwy o breswylwyr a dysgwyr; datblygu gwasanaethau newydd fel gofal
seibiant; ehangu ein gwaith mewn meysydd newydd; a chodi ein proffil ar-lein.
Ein pedwerydd amcan, sy’n adeiladu ar ein henw da fel lle gwych i fuddsoddi ynddo, yw cynyddu faint o
incwm y gallwn ei sicrhau bob blwyddyn er mwyn i ni allu datblygu ein gallu i arloesi, ariannu prosiectau
newydd ac ehangu ein heffaith.
Mae ein pumed amcan yn ymwneud â’n llinell waelod ariannol oherwydd mae cyfrifoldeb arnom i ddiogelu’r
elusen at y dyfodol a sicrhau bod ein holl waith sy’n newid bywydau yn gynaliadwy yn y tymor hir.
3