ECT Booklet Cymraeg - Flipbook - Page 7
Sylfeini ar gyfer y dyfodol
Diolch i gefnogaeth ddiwyro ein cefnogwyr, rydyn ni wedi
cyflwyno strategaeth codi arian ac ystadau uchelgeisiol sydd â
ffocws deublyg, ac mae wedi cyflawni’r canlynol:
•
Dau gartref preswyl newydd sy’n darparu
modelau gofal enghreifftiol
•
Campfa bwrpasol sy’n llawn cyfarpar
•
Canolfan addysg arbennig o’r radd flaenaf
•
Cyfres o adeiladau crefft wedi’u haddasu’n arbennig
•
Rhaglen dreigl o welliannau i’r seilwaith
Mae pob un o’r datblygiadau hyn wedi ein galluogi i wella
safon y gofal a’r addysg a ddarparwn i’n preswylwyr a’n
dysgwyr yn barhaus, yn ogystal â sicrhau bod ganddynt le
diogel ac ysgogol i fyw a dysgu ynddo.
Wrth i’n darpariaeth ehangu er mwyn diwallu anghenion
mwy o bobl, mae ein refeniw blynyddol wedi cynyddu 30
y cant – o £4.1m i £5.5m. Fel elusen sy’n tyfu, byddwn yn
parhau i adeiladu ar y llwyfan cadarn rydyn ni wedi’i sefydlu
dros y pum mlynedd diwethaf.
5